Hafan > Ymaelodi > Sut i ymuno
Sut i ymuno â'r CHTG
Mae croeso bob amser i aelodau newydd. Mae aelodaeth yn agored i bob hanesydd teulu a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn hanes teulu. Rydym yn cynnig ystod o opsiynau aelodaeth, yn dibynnu os ydych chi'n byw yn y DU neu Dramor.
Aelodaeth
Mae'r flwyddyn aelodaeth yn rhedeg o'r 1af o Ionawr i'r 31ain o Ragfyr ac mae disgwyl adnewyddu'r aelodaeth y mis Ionawr canlynol
- Os ymunwch yn ystod mis Tachwedd neu fis Rhagfyr bernir bod eich taliad aelodaeth gychwynnol ar gyfer y flwyddyn ganlynol ac ni fydd angen ei adnewyddu am 13/14 mis
- Bydd unrhyw un sy'n ymuno rhwng Ionawr a Hydref yn derbyn yr holl lenyddiaeth a chylchgronau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ers dechrau'r flwyddyn honno
- Os na fyddwch yn adnewyddu eich aelodaeth erbyn 31ain Ionawr y flwyddyn gyfredol, bydd eich aelodaeth yn dod i ben nes bydd y tanysgrifiad wedi'i dalu
- Mwy o wybodaeth am Fuddion Aelodaeth
Creu cyfrif
Y cam cyntaf i aelodaeth yw creu cyfrif i fewngofnodi i'r dashfwrdd aelodaeth trwy nodi'ch enw, e-bost a chreu cyfrinair. Defnyddir y manylion mewngofnodi hyn i fewngofnodi i “Dashfwrdd Eich Cyfrif” unwaith y bydd eich aelodaeth wedi'i gadarnhau.
Yr ail gam yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein i danysgrifio ac i dalu am yr aelodaeth. Ar ôl i chi greu eich cyfrif, yna cewch eich ailgyfeirio'n uniongyrchol i'r ffurflen aelodaeth ar-lein.
Os ydych wedi dewis talu trwy Drosglwyddiad Banc neu Siec, byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi manylion eich rhif aelodaeth ac yn darparu gwybodaeth ar sut i dalu. Pe byddech chi'n dewis talu ar-lein trwy Pay Pal byddwch hefyd yn derbyn e-bost gyda manylion eich rhif aelodaeth.
Pecynau Aelodaeth
Mae ein pecynnau aelodaeth gyfredol fel a ganlyn:
- Aelod sengl - £ 18
- Teulu (ar gyfer dau berson sy'n byw yn yr un cyfeiriad) - £ 22
- Tramor - £ 25
Dulliau Talu
Ein dulliau talu yw:
Trosglwyddiad Banc (BACS) - llenwch y ffurflen ar-lein. a dewis yr opsiwn BACS. Dyrennir rhif aelodaeth i chi (bydd hwn hefyd yn cael ei e-bostio atoch chi). Cysylltwch â'r Ysgrifennydd Aelodaeth am fanylion Banc y Gymdeithas.
Siec - yn daladwy i GYMDEITHAS HANES TEULUOEDD GWYNEDD. Llenwch y ffurflen ar-lein a dewis yr opsiwn "Siec". Dyrennir rhif aelodaeth i chi (bydd hwn hefyd yn cael ei e-bostio atoch chi). Anfonwch siec am y swm priodol (ysgrifennwch eich rhif aelodaeth ar y cefn) at: Mr Gwilym Lewis, 17 Y Ddol, Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RE.
PayPal - Llenwch y ffurflen ar-lein a dewis PayPal. Nid oes angen cyfrif PayPal arnoch i ddefnyddio'r dull talu hwn. Yn syml, sgroliwch o dan y botwm mewngofnodi PayPal a dewiswch talu trwy Gerdyn Gredyd neu Ddebyd. Dyrennir rhif aelodaeth i chi gan y Gymdeithas (bydd hwn hefyd yn cael ei e-bostio atoch).
Tâl Sefydlog - Adnewyddu eich aelodaeth yn unig. Dewiswch Adnewyddu Aelodaeth yn y Dashfwrdd Aelodau.
Cymorth Rhodd
Ydych chi'n Drethdalwr Incwm y DU? Os felly, ystyriwch helpu'r Gymdeithas i gael rhywfaint o refeniw ychwanegol heb unrhyw gost ychwanegol i chi'ch hun. Trwy gwblhau’r Datganiad Cymorth Rhodd hwn, gall y Gymdeithas hawlio ad-daliad treth ar eich tanysgrifiad a’ch rhoddion.
Pecyn croeso
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich taliad a chadarnhau eich aelodaeth. Byddwch yn derbyn pecyn croeso trwy'r post ac yn cael mynediad at holl fuddion y Gymdeithas gan gynnwys ein Cyfnodolyn, cyfarfodydd cangen a'r dashfwrdd aelodau ar ein gwefan.
Dulliau Tanysgrifio Ychwanegol
Os nad oes gennych e-bost neu os nad ydych am lenwi'r ffurflen ar-lein, gallwch lawr lwytho ac argraffu'r ffurflenni canlynol.
Argraffwch eich ffurflen gais a'ch ffurflen cymorth rhodd (os yw'n berthnasol) a'i hanfon gyda siec am y swm priodol at: Mr Gwilym Lewis, 17 Y Ddol, Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RE. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich taliad a chadarnhau eich rhif aelodaeth. Byddwch yn derbyn pecyn croeso trwy'r post ac yn cael mynediad at holl fuddion y Gymdeithas.
Ffurflen Gais Aelodaeth