Hafan > Pwy Ydym Ni > Canghennau > Meirionnydd
Croeso
Mae cangen Meirionnydd yn cyfarfod ar yr ail nos Iau o pob mis Hydref i mis Mai (heblaw Rhagfyr a Ionawr) yn Ty Siamas, Dolgellau.
Cynhelir pob cyfarfod yn y Gymraeg ac yn cychwyn yn brydlon am 7yh.
Aelodau – am ddim
Di-aelod - Amcan rhodd o £2 ar y drws.
Croeso cynnes i bawb!
Ein manylion cyswllt
Cadeirydd: I'w lenwi
Ysgrifennydd: Ieuan E Tomos - ieuanelis@btinternet.com
Swyddog Prosiect - Myfyr Hughes
Cynhelir ein cyfarfodydd yn:
Tŷ Siamas,
Sgwar Eldon,
Dolgellau,
Gwynedd.
LL40 1PY
Lleoliad: Mapiau Google
Yn ôl Gerallt Gymro (1146 - 1223) ar ei daith drwy Gymru, mae Meirionnydd “yn fwy anial a garw ac anhygyrch na’r holl ardaloedd eraill.”
Ei phrif drefi yw Blaenau Ffestiniog, Y Bermo, Tywyn, Y Bala, a Chorwen, a aeth yn 1974 fel y rhan fwyaf o Edeirnion yn rhan o Glwyd, ac yn ddiweddarach Sir Ddinbych.
Swyddfa Gofnodion Lleol ar gyfer plwyfi Meirionnydd
Mae Archifau Gwynedd yn Nolgellau yn gartref i ystod eang o ddogfennau, ffotograffau, mapiau a phapurau newydd. Dilynwch y ddolen i'w gwefan i gael oriau agor, lleoliad a gwybodaeth bellach am eu casgliad archifau.