Hafan > Pwy Ydym Ni > Canghennau > Cangen Zoom
Croeso
Wedi llwyddiant ein cyfarfodydd Zoom a gyflwynwyd i’n haelodau fel rhaglen ddigwyddiadau amgen yng nghyfnod y clo mawr llynedd, mae’r gymdeithas bellach wedi penderfynu parhau â’r cyfarfodydd hyn yn barhaol. Beth am ymuno â'r gymdeithas i fwynhau rhai o'n sgyrsiau gan ystod eang o siaradwyr rhagorol.
Cynhelir cyfarfodydd Zoom ar nos Fercher cyntaf o bob mis o fis Hydref i fis Ebrill (heblaw mis Ionawr). Mi fydd pob cyfarfod yn cychwyn am 7.30yh (GMT) a bydd iaith cyflwyno pob sesiwn wedi'i nodi ar dudalen y digwyddiad.
Ein manylion cyswllt
Cadeirydd: Mair Read - cadeirydd@chtgwyneddfhs.cymru
Ysgrifennyddes: Sue Thomas - ysgrifennydd@chtgwyneddfhs.cymru
Os ydych yn aelod ac am gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau Zoom, danfonwch ebost yn nodi eich rhif aelodaeth i ysgrifennydd@chtgwyneddfhs.cymru, ac mi fydd y ddolen Zoom yn cael ei danfon i chi.