Hafan > Pwy Ydym Ni > Cyfansoddiad
Cyfansoddiad Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd Family History Society
1. Teitl
Teitl y Gymdeithas fydd "CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD GWYNEDD FAMILY HISTORY SOCIETY; a elwir o hyn ymlaen "Y Gymdeithas".
2. Iaith
Bydd statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yng ngwaith y Gymdeithas.
3. Cyfeiriad
Cyfeiriad y Gymdeithas fydd cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig.
4. Ardal
Bydd yr ardal o ddiddordeb yn cynnwys Ynys Môn, Arfon, Dwyfor, Meirionnydd a’r rhan honno o Gonwy a ddeuai dan yr hen Sir Gwynedd fel y’i diffiniwyd yn Neddf Llywodraeth Leol Cymru 1972.
5. Amcanion
Amcanion y Gymdeithas fydd hybu – er budd, gwybodaeth ac addysg aelodau o’r cyhoedd - astudiaeth o achyddiaeth, herodraeth, hanes teuluol a hanes lleol yn yr “Ardal”.
Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, ond nid fel arall, bydd gan y Gymdeithas hawl i gyflawni’r canlynol:
i) Argraffu a chyhoeddi Cylchgrawn a elwir o hyn ymlaen yn Gwreiddiau Gwynedd Roots.
ii) Trefnu rhaglen o ddarlithoedd, ymweliadau, a gweithgareddau eraill
iii) Cadw a chynnal llyfrgell o ddeunyddiau argraffedig a gweithiau eraill at ddefnydd aelodau o’r Gymdeithas.
iv) Cydweithio gyda chymdeithasau cyffelyb a chyda chyrff sefydledig cefnogol megis eglwysi, llyfrgelloedd, archifdai, a sefydliadau addysgol.
v) Chwilio am ddeunyddiau, trawsysgrifio, mynegeio a, hefyd, pryd bynnag y bo modd, cyhoeddi deunyddiau.
vi) Casglu arian drwy gyfrwng tanysgrifiadau, rhoddion, grantiau a thrwy unrhyw ddulliau cyfreithlon eraill.
vii) Gwneud popeth cyfreithiol arall sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r amcanion uchod.
viii) Cefnogi a chymryd rhan yng ngweithgareddau Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teuluoedd wrth iddo gynnal y gweithgareddau hyn a rhai cyffelyb.
Bydd y Gymdeithas yn gwarchod ei statws Elusennol fel Elusen a gydnabyddir gan y Comisiynwyr Elusen.
6. Rheolaeth
i) Bydd rheolaeth y Gymdeithas yng ngofal Pwyllgor a elwir o hyn ymlaen y "Pwyllgor", gan gynnwys y Swyddogion, fel y diffinnir hwy yng Nghymal 9, a hyd at 2 gynrychiolydd o bob cangen.
ii) Cynhelir o leiaf bedwar cyfarfod pwyllgor ym mhob blwyddyn galendr.
iii) Bydd angen pum aelod i ffurfio cworwm.
7. Aelodau
i) Bydd aelodaeth yn agored i bawb sy'n cefnogi nodau ac amcanion y Gymdeithas ac sydd wedi talu eu tanysgrifiad blynyddol y flwyddyn honno.
ii) Bydd gan aelodau hawl i ddal swydd, i bleidleisio mewn Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, ac i dderbyn copïau am ddim o gylchgrawn y Gymdeithas am y flwyddyn honno,
iii) Gall y Pwyllgor wrthod cais am aelodaeth neu wrthod cais i adnewyddu aelodaeth, neu atal neu derfynu aelodaeth unrhyw aelod y gall ei weithredoedd neu ei ymddygiad, ym marn y Pwyllgor, fod yn niweidiol i nodau ac amcanion ac/neu i enw da’r Gymdeithas. Bydd hawl gan yr aelodau hyn i gyflwyno’u hachos i’r Pwyllgor mewn ysgrifen neu’n bersonol.
iv) Dosbarthiadau Aelodaeth
a) Aelodaeth Unigol: rhydd yr hawl i unigolyn fod yn bresennol yng nghyfarfodydd a gweithgareddau eraill y Gymdeithas, derbyn Gwreiddiau Gwynedd Roots a phleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
b) Aelodaeth Teulu: rhydd yr hawl i ddau neu ragor o unigolion sy’n byw yn yr un cyfeiriad i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd a gweithgareddau eraill y Gymdeithas, a derbyn un copi o Gwreiddiau Gwynedd Roots ond bydd hawl gan bob un o’r unigolion i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
c) Aelodaeth Sefydliad: rhydd yr hawl i sefydliad anfon cynrychiolydd i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd a gweithgareddau eraill y Gymdeithas, ac i dderbyn un copi o Gwreiddiau Gwynedd Roots. Bydd hawl gan un cynrychiolydd i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
d) Aelodaeth Dramor: rhydd yr hawl i unigolyn sy’n byw y tu allan i’r DU dderbyn Gwreiddiau Gwynedd Roots a phleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
8. Tanysgrifiadau
i) Caiff y cyfraddau tanysgrifio i fod yn aelod o’r Gymdeithas eu cynnig gan y Pwyllgor a’u cymeradwyo gan y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
ii) Bydd y tanysgrifiadau’n ddyledus ar y dydd cyntaf o Ionawr bob blwyddyn,
iii) Bydd unrhyw aelod nad yw wedi talu’r tanysgrifiad hwn erbyn Ionawr 31 yn y flwyddyn gyfredol yn peidio â bod yn aelod o’r Gymdeithas nes bydd y tanysgrifiad wedi ei dalu.
iv) Dylid talu tanysgrifiadau i Ysgrifennydd Aelodaeth y Gymdeithas a fydd yn cadw cofrestr o’r aelodau cyfredol.
9. Gweinyddiaeth
i) Y Swyddogion fydd y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, yr Ysgrifennydd Cyffredinol a’r Trysorydd, a chânt eu hethol yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
ii) Gall y Gymdeithas ethol Llywydd a fydd yn aelod o’r Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd.
iii) Bydd y Gymdeithas yn penodi Golygydd y Cylchgrawn, Ysgrifennydd Aelodaeth, Swyddog Cyhoeddiadau a swyddogion eraill fel y bo’n briodol, a byddant yn aelodau o’r Pwyllgor.
iv) Gall y Pwyllgor godi is-bwyllgorau i ymdrin â materion arbennig. Bydd yn rhaid i aelod o’r Pwyllgor fod yn Gadeirydd yr is-bwyllgorau hyn. Bydd yn rhaid cyflwyno adroddiad llawn a phrydlon i’r Pwyllgor am weithrediadau a thrafodion yr is-bwyllgorau hyn.
v) Bydd gan y Pwyllgor yr hawl i lenwi unrhyw le gwag a all godi’n achlysurol ar y Pwyllgor.
vi) Bydd y Swyddogion yn cael ei hethol yn flynyddol a bydd tymor eu swyddi’n dechrau pan gyhoeddir canlyniadau’r etholiadau yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Bydd yn rhaid cyflwyno enwebiadau o aelodau llwyrdaledig i fod yn Swyddogion mewn ysgrifen i’r Ysgrifennydd Cyffredinol 7 (saith) diwrnod cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a bydd yn rhaid i’r enwebiadau hyn gynnwys datganiad o barodrwydd i sefyll etholiad.
vii) Bydd yr etholaeth yn cynnwys pob aelod llwyrdaledig o’r Gymdeithas a chynhelir y pleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
viii) Bydd y Swyddogion a phob aelod o’r Pwyllgor yn Ymddiriedolwyr y Gymdeithas.
10. Cyllid
i) Daw blwyddyn ariannol y Gymdeithas i ben ar Ragfyr 31 ac mae’n rhaid cyflwyno'r cyfrifon Archwiliedig i'r Pwyllgor o leiaf 28 diwrnod cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
ii) Bydd y Gymdeithas yn gyfrifol am gadw llyfrau a chyfrifon priodol mewn perthynas â phob swm o arian a gaiff ei dderbyn a’i wario gan y Gymdeithas a’r asedau a ddelir gan y Gymdeithas a’r materion y perthyn y derbynebau a’r gwariannau iddynt.
iii) Mae’n rhaid i bob siec gael ei llofnodi gan ddau berson o blith pedwar a ddynodwyd gan y Pwyllgor i’r pwrpas hwnnw; y Trysorydd fydd un o’r rhain fel rheol.
iv) Caiff cyfrifon y Gymdeithas eu paratoi’n flynyddol a bydd yn ofynnol cynnal Archwiliad neu Archwiliad Annibynnol arnynt.
v) Bydd yn rhaid i'r Trysorydd gyflwyno yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Gyfriflen o’r Cyfrifon a archwiliwyd hyd at ddiwedd y Rhagfyr blaenorol.
vi) Bydd incwm ac eiddo’r Gymdeithas, o ba le bynnag y daeth, yn cael ei ddefnyddio’n unig i bwrpas hyrwyddo a gweithredu amcanion y Gymdeithas. Ni chaiff unrhyw gyfran ei dalu na’i drosglwyddo, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, yn unrhyw ffordd ar ffurf elw i unrhyw aelod o’r Pwyllgor na’r Gymdeithas, ac eithrio unrhyw roddion ex-gratia a gyflwynir i swyddogion sy’n rhoi gorau iddi yn dilyn gwasanaeth gwirfoddol priodol i’r gymdeithas a chaniatáu nad oes dim yn y Cyfansoddiad hwn yn rhwystro gwneud, yn ddidwyll, ad-daliadau rhesymol a phriodol am fân dreuliau a gododd wrth weithio ar ran y Gymdeithas.
11. Y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
i) Bydd y Gymdeithas yn cynnal Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Gymdeithas o fewn 6 (chwe) mis i ddiwedd ei blwyddyn ariannol. Rhoddir hysbysiad o leiaf 21 diwrnod cyn y cyfarfod.
ii) Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar amser, ac mewn lle yn yr “Ardal” a bennir gan y Pwyllgor.
iii) Busnes y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol fydd derbyn adroddiadau am weithgareddau'r flwyddyn flaenorol; derbyn a chymeradwyo cyfrifon archwiliedig y flwyddyn flaenorol; ethol Swyddogion; a thrafod unrhyw fater arall ar y Rhaglen.
iv) Os bydd nifer yr enwebiadau yn fwy na nifer y llefydd gwag, cynhelir yr etholiad drwy bleidlais gudd.
v) Bydd pump ar hugain o aelodau'r Gymdeithas yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yn ddigon i ffurfio cworwm.
vi) Dim ond aelodau llwyrdaledig o’r Gymdeithas sy’n bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol fydd â’r hawl i bleidleisio. Ni fydd pleidleisiau dirprwyol na phleidleisiau post yn dderbynniol.
vii) Pleidleisir ar gynnigion yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol fel arfer drwy godi dwylo. Yn ôl doethineb y Cadeirydd, gellir pleidleisio drwy bleidlais gudd. Pe na bai mwyafrif, bydd pleidlais fwrw gan Gadeirydd y cyfarfod.
12. Cyfarfod Cyffredinol Anghyffredin
i) Mae hawl gan y Pwyllgor i alw Cyfarfod Anghyffredin ac fe wneir hynny pe ceid cais ysgrifenedig gan ddeugain o aelodau.
ii) Ni thrafodir unrhyw fusnes ac eithrio’r busnes y galwyd y cyfarfod yn ei gylch.
iii) Bydd y rheolau o safbwynt trefn Cyfarfod Cyffredinol Anghyffredin yn debyg i’r rhai ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.
13. Canghennau
Bydd hawl gan y Pwyllgor i sefydlu Canghennau ar gyfer hyrwyddo amcanion y Gymdeithas. Bydd yn rhaid i bob Cangen a sefydlir fel hyn gydymffurfio â’r rheoliadau a ganlyn:
i) Bydd yn rhaid i unrhyw Gangen a sefydlir, weithredu i hyrwyddo amcanion a pholisïau’r Gymdeithas a bydd yn gorfod cydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor y Gymdeithas.
ii) Ystyrir bod y Canghennau wedi mabwysiadu’r rheolau a bennir gan Bwyllgor y Gymdeithas o bryd i’w gilydd ar gyfer Canghennau.
iii) Fe all y Gymdeithas ddarparu cyllid ar gyfer Cangen. Nid oes hawl gan unrhyw Gangen i godi tâl aelodaeth ei hun.
iv) Dylai Cangen agor cyfrif banc ei hun a chaiff y cyfrif hwnnw ei gynnal yn unol â’r rheolau a bennir gan y Gymdeithas.
v) Bydd unrhyw arian sydd ar ôl yng nghyfrif y Gangen o’r arian a nodir uchod, ar ôl talu costau’r gangen, yn aros yn eiddo’r gymdeithas. Dylai’r Gangen gadw cyfrifon yn unol â’r drefn a bennir gan Bwyllgor y Gymdeithas.
vi) Bydd unrhyw ddeunydd, boed yn brintiedig neu wedi’i gadw ar ficroffilm neu’n electronig, ac unrhyw asedau eraill a brynwyd gan y Gangen, yn cael eu hystyried yn asedau’r Gymdeithas.
vii) Gall Pwyllgor y Gymdeithas atal gweithgaredd Cangen ar unrhyw adeg.
14. Newidiadau i Gyfansoddiad y Gymdeithas
Bydd yn rhaid rhoi gwybod mewn ysgrifen, o leiaf 28 (dau ddeg wyth) diwrnod cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol am unrhyw newidiadau a gynigir yng Nghyfansoddiad y Gymdeithas, ac ni chânt eu mabwysiadu oni cheir cefnogaeth o leiaf ddwy ran o dair yr aelodau sy’n bresennol ac yn pleidleisio. Ni chaniateir gwneud unrhyw newidiadau i'r Cyfansoddiad hwn a allai beri i'r Gymdeithas beidio â bod yn Elusen yn ôl y gyfraith.
15. Cyffredinol
i) Gellir galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor gan y Cadeirydd neu gan dri aelod o’r Pwyllgor, gyda rhybudd rhesymol yn cael ei roddi i bob aelod o’r Pwyllgor.
ii) Yn ôl doethineb y Cadeirydd, gellir pleidleisio yng nghyfarfodydd y Pwyllgor drwy bleidlais gudd. Pe na bai mwyafrif, bydd pleidlais fwrw gan Gadeirydd y cyfarfod.
iii) Bydd y Gymdeithas yn rhoi hawl mynediad i'w gwibdeithiau a’i chyfarfodydd i aelodau o gymdeithasau cyffelyb eu natur sy'n cynnig yr un breintiau i aelodau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd.
16. Diddymu’r Gymdeithas
Gellir diddymu’r Gymdeithas drwy benderfyniad gan ddim llai na thri chwarter yr aelodau’n bresennol gyda hawl i bleidleisio mewn Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol neu Gyfarfod Cyffredinol Anghyffredin a alwyd i’r pwrpas hwnnw ac y rhoddwyd, mewn ysgrifen, ddau ddeg wyth diwrnod o rybudd ymlaen llaw yn ei gylch. Gall penderfyniad o’r fath gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer cael gwared ag unrhyw asedau ym meddiant y Gymdeithas, ar ôl i ddyledion a rhwymedigaethau gael eu setlo, gydag unrhyw weddill i gael ei drosglwyddo i ryw sefydliad elusennol arall neu sefydliadau elusennol eraill, sydd ag amcanion cyffelyb i rai’r Gymdeithas yn unol â gofynion y Comisiynwyr Elusen.
17. Dehongliad, Neu Achosion Nad Ymdrinnir â Hwy yn y Cyfansoddiad Hwn
Pe digwydd i unrhyw amwysedd godi’i ben o safbwynt dehongli’r Cyfansoddiad hwn neu pe cyfyd achos nad ymdrinnir ag ef yn y Cyfansoddiad, y Pwyllgor fydd yn penderfynu ar y mater ac yn cyflwyno adroddiad arno i’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol nesaf.
Adolygiad diwethaf: Mai 2006