Hafan > Adnoddau > Canolfan Adnoddau

Canolfan Adnoddau CHT Gwynedd

Oherwydd gwelliannau arfaethedig i Lyfrgell Caernarfon mae Canolfan Adnoddau y Gymdeithas yn symud, am gyfnod,  ar y 7fed o Fedi 2026 i:

Yr Aelwyd,
3 - 5 Stryd yr Eglwys.
Caernarfon,
Ll55 1SW.
https://maps.app.goo.gl/8D1Ek53RoutLzDXs5

Ar bob 3ydd prynhawn Sadwrn yn y mis rydym yn agored i aelodau ac ymwelwyr rhwng 2 a 5pm.

Mae un o ystafelloedd y Ganolfan wedi'i haddasu gyda byrddau ar gyfer defnydd ymchwil a darperir mynediad i'r ystafelloedd sy'n gartref i'n casgliadau.

Mae gwirfoddolwyr o'r Pwyllgor, sy'n haneswyr teuluol profiadol, yno i gynnig help gyda'n hadnoddau a chynnig cyngor cyffredinol ar ymchwilio i goed teuluol.

Canolfan Adnoddau Caernarfon

Parcio

Mae sawl maes parcio (talu ac arddangos) gerllaw Yr Aelwyd. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Gwynedd

Cwestiynau Cyffredin

Cyn cyflwyno'ch neges isod, edrychwch drwy ein Cwestiynau Cyffredin.