Hafan > Adnoddau > Cofnodion cofrestri bedydd, priodas a chladdu eglwysig o Gymru ar Ancestry.com
Cofnodion cofrestri bedydd, priodas a chladdu eglwysig Sir Feirionnydd ar Ancestry.com
Ymhlith data hanesyddol Ancestry.co.uk mae cofnodion cofrestri bedydd, priodas a chladdu eglwysig o Gymru. Er mor werthfawr yw’r wybodaeth yma, mae llawer iawn o anghysondebau a chamgymeriadau yn y mynegrifo, yn enwedig ar gyfer Sir Feirionnydd. Daw hyn yn eglur wrth ddefnyddio’r offeryn “browse”. Mae tua hanner y cofrestri wedi eu rhestri dan enw’r plwyf anghywir.
Edrychwyd trwy’r holl gofrestri a restrwyd ar gyfer Meirionnydd er mwyn creu taenlen gyda’r wybodaeth gywir. Yn achos y cofrestri ol 1813 (Bedydd a Chladdu) ac ol 1837 (Priodas) roedd hyn yn broses syml gan fod enw’r plwyf wedi ei nodi ar ddechrau pob tudalen. O ran y cofrestri cynharach roedd angen defnyddio amrywiaeth o ffynonellau er mwyn canfod y plwyf cywir.
Mae'r daenlen yn cynnwys rhestr o'r plwyfi a dyddiadau yn rhestr "browse" Ancestry. Rhestr o'r plwyfi cywir ar gyfer pob cofrestr, ynghyd a chynnwys y cofrestri, dyddiadau, tudalennau a gwybodaeth ychwanegol. Fel enghraifft mae cofrestr Cymysg Betws Gwerful Goch ar gyfer y blynyddoedd 1686 - 1769 wedi ei gynnwys gan Ancestry ar dudalennau 397 - 435 Llanelltud (Cymysg 1686-1769).
Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu ar gyfer Aelodau CHTG. Mewn gofnodwch fel arfer i gael mynediad i'r daenlen.