Hafan > Pwy Ydym Ni > Canghennau > Arfon
Croeso
Croeso i Gangen Arfon o Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd. Mae cangen Arfon yn cyfarfod ar nos Iau ddiwethaf o bob mis o Fis Medi i Fis Ebrill (heblaw Rhagfyr) yn y Llyfrgell yng Nghaernarfon.
Cynhelir pob cyfarfod yn y Gymraeg ac yn cychwyn yn brydlon am 7yh. Bydd drysau ar agor o 6yh ymlaen i aelodau gael defnyddio ein hadnoddau cyn i’r cyfarfod gychwyn.
Aelodau – am ddim
Di-aelod - Amcan rhodd o £2 ar y drws.
Croeso cynnes i bawb!
Ein manylion cyswllt
Cadeirydd: Dr Huw Roberts
Ysgrifennyddes: Sue Thomas - ysgrifennydd@chtgwyneddfhs.cymru
Swyddog Prosiect - Gwyndaf Williams
Cynhelir ein cyfarfodydd yn:
Ystafell Gymunedol
Y Llyfrgell,
Lôn Pafiliwn,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1AS
Lleoliad: Mapiau Google
Prosiectau
Mae gwaith nawr wedi cychwyn ar gofnodi mynwentydd yn Nyffryn Nantlle i gynnwys pedair ym mhentref Llanllyfni a Machpelah ym Mhenygroes.
Rydym hefyd wedi cychwyn ar Frynaerau ym Mhontllyfni.
Swyddfa Gofnodion Lleol ar gyfer plwyfi Arfon
Mae Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon yn gartref i ystod eang o ddogfennau, ffotograffau, mapiau a phapurau newydd. Dilynwch y ddolen i'w gwefan i gael oriau agor, lleoliad a gwybodaeth bellach am eu casgliad archifau.