Hafan > Pwy Ydym Ni > Cylchgrawn

Y Cylchgrawn - Gwreiddiau Gwynedd Roots

"Gwreiddiau Gwynedd Roots" yw cyhoeddiad swyddogol y Gymdeithas ac fe'i cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn ym mis Ebrill a mis Tachwedd.  Fe'i dosbarthir am ddim i Aelodau ar ffurf print.

Mae’r Cylchgrawn yn cynnwys erthyglau o ddiddordeb achyddol cyffredinol, aelodau wedi cyflwyno straeon o’u hymchwil, yn ogystal ag erthyglau sy’n berthnasol i Hanes Teulu Gwynedd. Mae hefyd yn cynnwys erthyglau nodwedd rheolaidd gan gynnwys newyddion a hysbysiadau'r Gymdeithas, adain sy’n rhestri diddordebau Aelodau ac adain llythyrau ac ymholiadau Aelodau.

Mae mynegai ar gael ar gyfer y prif erthyglau yng Nghylchgrawn y Gymdeithas - Gwreiddiau Gwynedd Roots - Rhifau 1 - 60

Ôl - rifynnau Gwreiddiau Gwynedd Roots

Mae copiau Gwreiddiau Gwynedd ar gael i'w prynu fel rhestrir isod. Nid yw'r copiau ar gael i'w archebu drwy'r siop ar-lein. Cysylltwch â'r Swyddog Gwerthiant  bydd yn ymateb drwy e-bost gyda manylion cyfanswm cost eich archeb, gan gynnwys costau dosbarthu p & p a bydd yn eich hysbysu sut i dalu am y nwyddau

Rhif 1 – 42 - £3.00 yr un os mewn print. Mae rhai ohonynt o’r dyddiau cynnar yn brin iawn.(Cost postio yn ychwanegol)

Rhif 43 – 69 - £3.00 (Cost postio yn ychwanegol)

Rhif 70 – 79 - £4.00 yr un (Cost postio yn ychwanegol)

Rhif 80 – cyfredol - £5.00 yr un (Cost postio yn ychwanegol)

Gwreiddiau Gwynedd Roots

                                                                    

Beth am gyflwyno erthygl?