Hafan > Adnoddau > Casgliad Adnoddau

Casgliad Adnoddau

Llyfrau a Chylchgronau

Mae gennym dros 1000 o eitemau yng nghasgliad y llyfrgell, gyda phynciau'n cynnwys canllawiau hanes teulu cyffredinol, hanes Cymru, hanesion tref a phentref a hanes cymdeithasol. Mae ein casgliad cyfeiriannu yn unig yn cynnwys llyfrau hanesyddol gan gynnwys " Pedigree of Anglesey and Caernarvonshire families " gan J.E. Griffith ac " Achau ac ewyllysiau teuluoedd de Sir Gaernarfon" gan T.Ceiri Griffith a hanesion lleol.

Rydym yn derbyn nifer o gylchgronau cymdeithas hanes teulu cyfnewid gan gynnwys y rhai gan Cymdeithasau Hanes Teulu Clwyd, Sir Aberteifi, Dyfed, Powys a Morgannwg.

Catalog Llyfrau

Mae rhestr Stoc y Ganolfan Adnoddau yn cynnwys yr holl eitemau a gedwir yn ein casgliadau llyfrau. Nid yw'r Llyfrau sydd wedi'u marcio â rhifau silff gyda C o’u blaen ar gael i fenthyg gan eu bod yn cael eu cadw at ddibenion ymchwil yn unig. Fodd bynnag, gallwch ymgynghori â nhw os byddwch yn ymweld â'r Ganolfan Adnoddau.

Ar hyn o bryd, mae eitemau sydd wedi'u marcio â seren * ar goll.

Lawr lwythwch Rhestr Stoc y Llyfrgell fel ffeil pdf

Gall aelodau fenthyg hyd at ddau lyfr ar unrhyw un adeg am gyfnod o dri mis, y benthyciwr yn talu postio a phacio.

Os hoffech fenthyg eitem, llenwch y ffurflen fenthyciadau ar eich ymweliad â'r Ganolfan Adnoddau neu fewngofnodwch fel Aelod a chwblhewch y ffurflen ar-lein gyda manylion yr eitemau y gofynnwyd amdanynt neu fel arall e-bostiwch y Llyfrgellydd.

Gellir pori trwy pob cyhoeddiad CHTG yn ein Canolfan Adnoddau. Mae'r rhain yn cynnwys dros 400 o lyfrau arysgrifau coffa, cyhoeddiadau cyfrifiad 1851, llyfrau bedydd, priodas a chladdu dethol a'n cylchgrawn "Gwreiddiau".

Gellir prynu copïau hefyd ar eich ymweliad.

Mae darllenydd microfiche ar gael i'w ddefnyddio. Gellir ymgynghori â'r microfiche canlynol:

  • Ewyllysiau Bangor, Llanelwy ac Aberhonddu
  • Mynegai IGI (1984) Siroedd Cymru IGI
  • Cyhoeddiadau CHTG
  • Cofrestr Achauolegol Ynysoedd Prydain 2000
  • Cofrestrau Plwyf Cymdeithas Hanes Teulu Clwyd
  • Cyfrifiadau Ynys Môn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd 1841-1911
  • Marwolaethau Môn 1837-2007
  • Genedigaethau Ynys Môn 1837-2007
  • Priodasau Môn o 1837
  • Cofnodion Beddgelert 1731-1751, 1752-1770
  • Cyfeiriadur Masnach Gogledd Cymru 1844
  • 1881 Cyfrifiad Prydeinig a Mynegai Cenedlaethol
  • Gwreiddiau 1-60

Byddem yn croesawu rhoddion llyfrau ac unrhyw ddeunydd arall sy'n ymwneud â hanes teulu neu hanes lleol Gwynedd.  Llenwch y Ffurflen Derbyn Deunydd Ymchwil i Ganolfan Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd gydag eich manylion cyswllt a manylion y deunydd sydd yn cael ei roddi / trosglwyddo a chysylltwch â'r Llyfrgellydd os hoffech gyfrannu.

Wedi anghofio eich cyfrinair? Cliciwch yma i'w ail-osod.