Hafan > Ein Hardal Ni > Ffiniau Gwynedd
Ffiniau Gwynedd
Yn ôl y “Dictionary of the Place Names of Wales”, ystyr Gwynedd yw tir y Veni (Ueneda mewn Gwyddeleg a Venedotis mewn Lladin). O’r bumed ganrif datblygodd yr ardal yma o Ogledd-orllewin Cymru yn uned wleidyddol ac erbyn y chweched ganrif roedd yn un o dywysogaethau mwyaf blaenllaw Cymru. Parhaodd grym a statws tywysogion Gwynedd o’r cyfnod cynnar yma hyd y goncwest Edwardaidd ym 1282-83.
Mae ceisio olrhain ffiniau Gwynedd yn ystod y Canol Oesoedd yn hynod o gymhleth. Pan fyddai tywysog nerthol yn teyrnasu, byddai’r tiroedd dan eu rheolaeth yn ehangu, ond os oedd y sefyllfa wleidyddol yn fregus, byddai’r deyrnas yn crebachu.
Craidd y deyrnas oedd Gwynedd Uwch Conwy, sef y tiroedd i’r Gorllewin o’r afon Conwy, gan gynnwys Arfon, Môn, Llyn a Gorllewin Meirionnydd. Yn ogystal hawliau’r tywysogion cantrefi’r Berfeddwlad neu Gwynedd Is Conwy. Golygai hyn fod ffiniau’r deyrnas yn ymestyn bron at furiau dinas Caer ar adegau. Daeth cantref Penllyn ym Meirionnydd yn rhan barhaol o Wynedd yn ail hanner y deuddegfed ganrif, tra bu rhannau o Bowys a Cheredigion dan reolaeth uniongyrchol Gwynedd ar adegau.
Wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd y flwyddyn ganlynol, chwalwyd yr hen drefn. Ym 1284, fel rhan o statud Rhuddlan, creuwyd chwe sir ar y patrwm Saesneg, sef Meirionnydd, Caernarfon, Môn, Fflint, Caerfyrddin a Cheredigion. Gadawyd gweddill Cymru fel nifer o Arglwyddiaethau’r Mers.
Yn ystod teyrnasiad Harri’r wythfed daeth dwy ddeddf bwysig i rym, sef:
“An Acte for Laws & Justice to be ministred in Wales in like fourme as it is in this Realme.”(1536)
“An Acte for certaine Ordinaunces in the Kinges Majesties Domynion and Principalitie of Wales” (1543)
Yn aml cyfeirir at y deddfau yma fel y “deddfau uno” ac roeddent yn cynnwys nifer o nifer o newidiadau pellgyrhaeddol i’r drefn gyfreithiol. Diddymwyd arglwyddiaethau’r Mers a creuwyd saith sir yn eu lle, sef Dinbych, Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog, Penfro, Morgannwg a Mynwy (er nad oedd Sir Fynwy’n rhan o drefn llysoedd y Sesiwn Fawr). Golygai hyn fod Cymru wedi ei rannu’n 13 sir ,a adwaenir gan haneswyr fel y “siroedd hanesyddol”.
Parhaodd yn drefn yma’n sefydlog nes i gyfres o ddeddfau ddod i rym yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y cyntaf o’r rhain oedd y ddeddf “Siroedd (Rhannau ar wahân)” (1844). Ei bwrpas oedd cael gwared ag allglofannau (exclaves), sef plwyfi neu rannau o blwyfi oedd yn weinyddol yn rhan o un sir ond yn ddaearyddol mewn sir arall. Un enghraifft o hyn oedd ardal Llandrillo yn Rhos.
Ym 1889 pasiwyd Deddf Llywodraeth Leol gan greu cyfundrefn o siroedd gweinyddol oedd yn cydredeg â’r siroedd hanesyddol. Dros y ganrif ganlynol gwelwyd nifer o newidiadau ychwanegol mewn ffiniau llywodraeth leol
Ym 1974 diddymwyd y 13 sir weinyddol a creuwyd 8 newydd yn eu lle, sef Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, De Morgannwg, Morgannwg Ganol a Gwent. Ym 1996 disodlwyd y siroedd yma gan 22 Awdurdod Unedig, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam yng Ngogledd Cymru.
Arweiniodd y deddfwriaethu yma at gryn dipyn o newid o ran ffiniau Sirol a phlwyfi a dylai haneswyr teulu fod yn ymwybodol o hyn rhag ofn iddynt gyfyngu eu hymchwil i un sir yn unig. Newidiwyd ffiniau rhai plwyfi, symudwyd plwyfi (neu rannau ohonynt) o un sir i’r llall, creuwyd plwyfi neu gymunedau newydd a diflannodd rhai plwyfi hanesyddol. Mae’r pdf yn rhestri rhai plwyfi a fu o fewn ffiniau dau neu fwy o siroedd.
Ffynonellau
- Index of Place Names (IPN) - Office for National Statistics.
- Genuki.org.uk
- Historic Parishes of England & Wales. An Electronic Map of Boundaries before 1850 with a Gazetteer and Metadat
Dylid hefyd ystyried y canlynol wrth chwilota am ffynonellau achyddol:
Esgobaethau
Mae amryw o blwyfi Meirionnydd yn perthyn i esgobaeth Llanelwy yn hytrach na Bangor. Y plwyfi yma yw Betws Gwerfil Goch, Corwen, Gwyddelwern, Llandderfel, Llandrillo yn Edeirnion, Llandudno, Llanfor, Llangywer, Llanrwst, Llanuwchllyn, Llanycil.
Ardaloedd cofrestri
O ganlyniad i Ddeddf Cofrestri Sifil 1836 sefydliwyd trefn newydd o gofrestri genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Creuwyd rhwydwaith o ganolfannau ac ardaloedd cofrestri. Roedd nifer o’r ardaloedd cofrestri gwreiddiol yma’n cynnwys plwyfi o fwy nag un sir:
- Corwen - Dinbych a Meirionnydd
- Llanrwst – Dinbych a Chaernarfon
- Conwy – Dinbych a Chaernarfon
- Dolgellau – Meirionnydd a Threfaldwyn
- Machynlleth - Meirionnydd a Threfaldwyn