Hafan > Siop
Siop GFHS
Mae cyhoeddiadau’r Gymdeithas ar werth i aelodau’r Gymdeithas, y cyhoedd, llyfrgelloedd neu sefydliadau eraill. Mae pob cyhoeddiad ar ffurf maint A4, a gellir hefyd prynnu copiau microfiche o rhan fwyaf o’n cyhoeddiadau. Cysylltwch gyda’r Swyddog Gwerthiant am brisiau a costau postio ar gyfer microfiche.
Lawr lwythwch gopi o'n rhestr cyhoeddiadau - Tachwedd 2024 fel pdf a chwiliwch drwy'r rhestr.
Archebu ar-lein
I brynu ar-lein, wrth ddod o hyd i'r cyhoeddiad sydd ei angen arnoch, dewiswch nifer y copïau ac ychwanegwch at y fasged. Os hoffech chwilio am eitemau pellach dychwelwch i'r siop a gwnewch ychwanegiadau pellach i'r fasged. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i eitem ac yn dymuno parhau i dalu, cliciwch ar y ddolen yn y fasged fechan yn yr uwch faner ar ben y dudalen.
Unwaith y byddwch yn barod i fwrw ymlaen â'ch archeb, pwyswch "YMLAEN I DALU". Ar y dudalen yma os ydych yn aelod o'r Gymdeithas neu eisoes wedi cofrestru, gofynnir i chi fewngofnodi i'r safle. Fel arall, gallwch wirio fel gwestai. Cwblhewch eich manylion.
- Os ydych yn aelod taledig o Gymdeithas Hanes Teulu Gwynedd, mewnbynnwch eich e-bost a’ch cyfrinair a pharhewch â’ch archeb
- Os ydych yn aelod, a dyma'r tro cyntaf i chi ddefnyddio ein gwefan, neu wedi anghofio eich cyfrinair, defnyddiwch yr opsiwn ailosod cyfrinair. Mi ofynnir am gyfeiriad E-bost. Teipiwch yr e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth ymuno â'r Gymdeithas a gwasgwch “Ailosod”. Byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfrinair dros dro y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r wefan. Gallwch newid eich cyfrinair i rywbeth unigryw trwy ddefnyddio'r ddolen Newid Cyfrinair yn "Dashfwrdd eich Cyfrif". Os nad ydych yn derbyn e-bost, mae’n debygol eich bod yn defnyddio’r e-bost anghywir – cysylltwch ag aelodaeth@chtgwyneddfhs.cymru i ddiweddaru eich e-bost. Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses hon, pwyswch yr eicon basged yn y bar uchaf i fynd yn ôl i'r siop a chwblhau eich archeb.
- Gallwch archebu ein cyhoeddiadau os nad ydych yn aelod o'r Gymdeithas. Crëwch “Cyfrif Gwestai” gyda'r wefan a bwrw ymlaen â'ch archeb.
Talwch yn ddiogel trwy PayPal. Nid oes angen cyfrif PayPal arnoch i ddefnyddio'r dull talu hwn. Yn syml, sgroliwch o dan y botwm mewngofnodi PayPal a dewis Talu â Cherdyn Credyd neu Ddebyd.
Os yw'n well gennych archebu a thalu â siec, defnyddiwch y siop ar-lein fel uchod ac ychwanegwch eich manylion cyswllt, eich cyfeiriadau bilio a dosbarthu. Ni ofynnir i chi dalu ar-lein a bydd y Swyddog Gwerthiant yn cysylltu â chi drwy e-bost ac yn rhoi gwybod i chi sut i dalu am y nwyddau. Mae'r opsiwn i brynu gyda arian parod ar gyfer gweinyddwyr yn unig. Am gostau pacio a chludiant archebion dros £90, cysylltwch â'r Swyddog Gwerthiant am gostau dosbarthu a sut i dalu am y nwyddau.
Ceir Canllaw cam wrth gam i archebu a phrynu cyhoeddiadau CHTG i'w lawrlwytho fel pdf
Gweler ein Termau Defnyddio'r Wefan i gael mwy o wybodaeth am archebu, costau postio a thalu am ein cyhoeddiadau. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cynnwys sut rydyn ni'n defnyddio ac yn rheoli eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wefan, cysylltwch â gwefeistr@chtgwyneddfhs.cymru
Archebu o Dramor
Os ydych chi angen eitemau sy'n cael eu cludo y tu allan i'r Deyrnas Unedig, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel defnyddiwch y ffurflen ar-lein fel uchod. Ni ofynnir i chi dalu ar-lein a bydd y Swyddog Gwerthiant yn cysylltu â chi drwy e-bost gyda manylion cyfanswm cost eich archeb, gan gynnwys costau dosbarthu p & p a bydd yn eich hysbysu sut i dalu am y nwyddau. Mae costau postio ar gyfer gwledydd tramor yn dibynnu ar y wlad unigol a chyfanswm pwysau'r eitemau archeb. Mae isafswm tâl postio o £5 am archebion dramor.