Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Gwefan newydd Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd!
Croeso i ein gwefan newydd!
Pleser yw cael cyhoeddi ein bod wedi lansio gwefan newydd sbon! Rydym yn falch iawn o gyflwyno cartref digidol, dwyieithog, modern, deniadol, a chyffrous i’n Cymdeithas – https://www.chtgwyneddfhs.cymru
Rydym yn gobeithio y byddwch yn hoff o’r wefan newydd a byddwn yn parhau i’w ddatblygu dros yr wythnosau a misoedd i ddod.
Dyma rai o fuddion y wefan newydd:
- Gellir archebu a thalu am ein cyhoeddiadau o'n siop ar-lein. Mae’r cyhoeddiadau’n cynnwys arysgrifau cerrig beddau o fynwentydd eglwysi a chapeli ar draws Gwynedd, mynegeion i gofrestrau plwyf dethol a chopïau o’n cylchgrawn, “Gwreiddiau Gwynedd Roots”.

- Mae’r wefan yn rhestru holl ddigwyddiadau’r Gymdeithas sydd i ddod, wedi’u trefnu gan aelodau o’n chwe changen ac sydd wedi’u lleoli o amgylch Gwynedd, Ynys Môn a Meirionnydd. Datblygiad newydd cyffrous fu’r cyfarfodydd Zoom a gyflwynwyd i’n haelodau fel rhaglen o ddigwyddiadau amgen yn ystod y pandemig Covid. Mae'r gymdeithas bellach wedi penderfynu parhau â'r cyfarfodydd hyn yn barhaol. Beth am ymuno â'r gymdeithas i fwynhau rhai o'n sgyrsiau gan ystod eang o siaradwyr rhagorol.
- Cewch y newyddion diweddaraf, gan gynnwys diweddariadau ar ein prosiectau cofnodi mynwentydd a gwaith ein canghennau. Efallai y cewch eich ysbrydoli i wirfoddoli i helpu gydag un o'r prosiectau. Mae croeso i bawb!
- Ymunwch â'r Gymdeithas ar-lein a thalu am eich aelodaeth trwy PayPal ac opsiynau talu eraill.
- Os ydych eisoes yn aelod, cewch fynediad diogel i'r Dashfwrdd aelodau lle gallwch fewngofnodi i gynnal eich gwybodaeth bersonol ac adnewyddu eich aelodaeth ar-lein. Gallwch hefyd rannu eich diddordebau ymchwil a chysylltu'n ddiogel ag aelodau eraill sydd â'r un diddordebau â chi. Ewch i “Dashfwrdd eich cyfrif” a dewiswch y ddolen “Wedi anghofio’ch cyfrinair? Ei ailosod nawr.”. Teipiwch yr e-bost a ddefnyddiwyd wrth ymuno â'r Gymdeithas a gwasgwch “Ailosod”. Byddwch yn derbyn e-bost o'r wefan gyda cyfrinair dros dro i'w ddefnyddio i fewngofnodi i'r wefan. Gallwch newid eich cyfrinair i rywbeth unigryw yn y "Dashfwrdd" gan ddilyn y ddolen "Diweddaru Cyfrinair".
- Chwiliwch drwy restr o’r llyfrau a’r cyfnodolion a gedwir yng Nghanolfan Adnoddau’r Gymdeithas yng Nghaernarfon ac, os ydych yn aelod, gofynnwch am wasanaeth benthyca. Gall aelodau hefyd ofyn am dystysgrif am ddim o’n casgliad mawr o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth sydd wedi’u rhoi i’r gymdeithas.
- Gall aelodau gysylltu â'r Llyfrgellydd a gwneud defnydd o'r gwasanaeth newydd “Chwilio” yr ydym yn gynnig. Gallwch ofyn i ni edrych i fyny enwau yn ein cyhoeddiadau. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i'r aelodau hynny nad ydynt yn gallu ymweld â'n canolfan adnoddau.
Pwyllgor Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd Mawrth 13eg, 2022