Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Dewch i'n gweld yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, Boduan 2023
CHTG yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, Boduan 2023
Bydd Gwirfoddolwyr Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd yn bresennol yn stondinau’r Gymdeithas - 136/137 - yn Eisteddfod Boduan o’r 5ed i’r 12fed o Awst, 2023. Mae ein gwirfoddolwyr profiadol yn edrych ymlaen at sgwrsio â chi a gobeithio rhoi cyngor ar yr hyn y gallech ei wneud i dorri eich "waliau brics" hanes teuluol.
Galwch i mewn i weld a phrynu ein cyhoeddiadau, mae llawer o rai newydd ar gael:
- M410 Llanllyfni, St Rhedyw £20.00
- M411 Llanllyfni, Gorphwysfa £15.00
- M412 Pontllyfni, Brynaerau (MC) £8.00
- M413 Rhiw, Y – Capel Galltraeth (B) £5.00
- D142 Llansanffraid Glyndyfrdwy 1813 – 1905, £7.00
Ewch i Siop GFHS i weld y rhestr ddiweddaraf o'n cyhoeddiadau a chael gwybod sut y gallwch archebu copïau. (Mae'n ddrwg gennym nad ydym yn gallu cwblhau archebion ar-lein am gyhoeddiadau tan y 15fed o Awst oherwydd ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol).
Bydd ein Llywydd, Mr John Dilwyn Williams, yn traddodi darlith ym mhabell y Cymdeithasau 2 ar "Gwreiddiau Robert ap Gwilym Ddu (1766-1850) yn Llŷn ac Eifionydd, Arfon a Meirionnydd" am 2.30yp ar Awst 9fed. Yn sicr o fod yn boblogaidd. Cofiwch wneud nodyn yn eich dyddiadur!
Gallwch hefyd ymuno fel aelod o'r gymdeithas ar faes yr Eisteddfod neu os ydych eisoes yn aelod, gwirfoddoli i helpu i drawsgrifio arysgrifau cerrig beddi. Gall bod yn wirfoddolwr roi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg, a chyfrannu at elusen leol
Bydd gennym hefyd "Gornel y Plant" gyda chwisiau achyddiaeth a gweithgareddau lliwio! Neu beth am geisio ennill cyhoeddiad o'ch dewis yn ein loteri "Prynu Plwyf" - £1 y plwyf!
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ym Moduan!
