Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Cloddio archeolegol - galwad am wirfoddolwyr
Diddordeb mewn hanes ac archeoleg Eryri? Awydd cymryd rhan? Medi 10-20 2024
Yn ystod mis Medi bydd archeolegwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) Eryri a Phrifysgol Sheffield yn ymchwilio bwthyn â hanes diddorol sy’n llechu uwchben Llanbedr, yn nhirwedd Ardudwy.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y prosiect cyffroes hwn sydd yn canolbwyntio ar furddun hynafol gall fod oddeutu 300-400 oed. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, cewch hyfforddiant gan staff ar y safle. Bydd y gwaith yn cynnwys cloddio a chofnodigweddillion y murddun ac unrhyw ddarganfyddiadau a ddatgelwyd.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ‘Cartreflu’ APC Eryri, 2024-2025, sydd yn ymchwilio a dathlu murddunnod bythynnod Ardudwy wledig. Mae Ardudwy yn ardal orllewinol Eryri, rhwng Abermaw a Maentwrog, gan gynnwys y mynyddoedd a’r arfordir.
Bydd ‘Cartreflu’ yn adeiladu ar waith diweddar APC Eryri a’r gymuned leol i ddarganfod a chofnodi straeon murddunnod sydd mewn perig o ddiflannu a mynd yn angof.
- Cyfleoedd ar gael rhwng 10-13 a 16-20 o Fedi.
- Posib i chi wirfoddoli am ddiwrnod neu mwy.
- Croeso i bawb ond cyntaf i’r felin!
- Rhaid cofrestru o flaen llaw a bod dros 16 oed.
- Mae’r diwrnod gwaith o 9yb i 4yp.
- Byddwch yn gweithio tu allan yn yr awyr agor a bydd angen i fod â ffitrwydd cymedrol.
- Bydd angen i chi deithio i’r man cyfarfod (parcio) sydd tua 2.5km 1.5 milltir) o Lanbedr a 3km 2 filltir) Ddyffryn Ardudwy. [manylion llawn i’w rannu ar ôl cofrestru].
- Darparir manylion llawn am y man cyfarfod a gwybodaeth ychwanegol wrth i chi gofrestru.
I gadw eich lle neu am ragor o wybodaeth y digwyddiad, cysylltwch â Jess John, Tylwyth sydd yn cydlynu gwirfoddolwyr ar ran APC Eryri : 07787522659 / jessicajohn@tylwyth.cymru
