Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Lansiad 4 llyfryn newydd - 21/6/25

Buom fel Cymdeithas yn ffodus iawn o dderbyn grantiau yn ddiweddar i alluogi ni i gofnodi a chyhoeddi tri llyfr newydd - Macpela, Penygroes (Rhan 1), St Cawrdaf, Abererch (Rhan 1) a Llanaber Rhan 2.

Bydd y Gymdeithas yn lansio'r cyhoeddiadau newydd yn swyddogol ar brynhawn dydd Sadwrn 21 o Fehefin yn ein sesiwn agored yn y Ganolfan yn Llyfrgell Caernarfon am 4yp. Bydd J. Dilwyn Williams, ein Llywydd, yn trafod cefndir y gwaith ac yn cyflwyno copïau i gynrychiolwyr yr Eglwys a’r Cynghorau Cymuned berthnasol.

Croeso cynnes i bawb ymuno a ni. Trefnir lluniaeth ysgafn.

Bydd cyfle i brynu'r cyhoeddiadau newydd,

Meirionnydd

M227 Santes Fair, Llanaber Rhan 2 £20.00

Conwy

M414 Erw Rhun, Caerhun £7.00

Arfon

M417 Macpela, Penygroes Rhan 1 £23.50

Dwyfor

M418 St Cawrdaf, Abererch, Rhan 1 £13.50