Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 73 - Rhosbeirio

Rhosbeirio - Agy 73

Eglwys St Peirio

Sant Peirio, Rhosbeirio Eglwys plwyf fechain segur wedi ei lleoli nid nepell o arfordir gogleddol Ynys Môn.. Disgrifir fel un o’r adeiliadau mwyaf distadl ar yr Ynys. Mae yn rhestredig Gradd II Nid erys unrhyw fanylion cynnar ond mae’r muriau, er wedi ei hail adeiladu mewn rhannau, yn bennaf canol oesol. Bu diwedd ar wasanaethau yno ers rhai blynyddoedd ac mae wedi ei bordio i fyny. Bu adferiad yn 1812 ac unwaith eto yn hwyr yn y 19fed ganrif pan ychwanegwyd to newydd. Ariannwyd y gwaith gan yr Arglwydd Stanley o Alderley a gafodd droëdigaeth i Islam a noddwr yr eglwys, gyda amodau cyfraniadau i eglwysi gwledig fod manylion Islamaidd yn cael ei cynnwys mewn unrhyw adfer.. O ganlyniad mae yn ffenestri’r eglwys patrymau geomedrig o chwareli bach o wydr lliw. Mae’r porth deheuol yn ychwanegiad modern. O’r tu mewn mae plac pres i Ann (Vaughan) gwraig Richard Lloyd 1734/5 Bowlen gron plaen yw y bedyddfaen yn debygol o’r 12fed ganrif.

Arysgrifau Coffa

Mae’r fynwent wedi’i thrawsgrifio (M027) ac mae y gyfrol ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein.

Dolenni defnyddiol

Genuki