Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 50 - Llangefni

Llangefni - Agy 50

Eglwys St Cyngar

‘Roedd cysylltiad rhwng Sant Cyngar a Sant Cybi ac o Caer Gybi y sefydlodd ef eglwys Llangefni, yn y lle hwn yn ol pob tebygrwydd y claddwyd ef at y 7fed o Dachwedd, o bosibilrwydd rhyw dro yng nghanol y 6ed ganrif. Mae’r porth a chawg dwr sanctaidd o’r hen eglwys. Daethant yn wreiddiol o ardd ‘Pencraig’.

‘Roedd gan yr eglwys gysylltiad â Llys Tywysogion Gwynedd. Fe’I hail-adeiladwyd yng nghyfnod y Normanaidd. Mae hi’n eglwys gyda chorff dwbl efo’r rhan ddeheuol a’r muriau gorllewin yn dyddio o’r deuddegfed ganrif. Fe ychwanegwyd y rhan ogleddol a’r arcêd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y gangell a’r waliau yn gymharol ddiweddar.

Arysgrifau Coffa

Mae’r mynwentydd canlynol wedi’i trawsgrifio ac mae'r cyfrolau ar gael i’w prynu yn ein siop ar-lein.

Dolenni defnyddiol

Genuki

Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru