Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 47 - Llanfflewyn
Llanfflewyn - Agy 47
Eglwys St Fflewyn
Mae Eglwys Llanfflewyn [neu Llanfflewin] yn un o 'r safleoedd Eglwysig hynaf yn Ynys Môn - fel y dangosir gan siap crwn y fynwent. Sefydlwyd ar safle Cristnogol yn dyddio i 630OC. Codwyd yr adeiliad presennol rhywbryd yn nechrau’r ddeunawfed ganrif. Fe’i hadgyweirwyd hi yn 1934 pryd y darganfyddwyd rhai olion o 'r trydedd ganrif ar ddeg - megis darn o hen garreg fedd yn dwyn yr arysgrif HIC JACED MADOCUS sydd erbyn hyn wedi ei osod yn sil y ffenestr ddwyreiniol. Mae yn adeilad Gradd11 Rhestredig
Arysgrifau Coffa
Mae’r fynwent wedi’i thrawsgrifio (M281) ac mae y gyfrol ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein.
Dolenni defnyddiol
Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru