Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 44 - Llanfigael
Llanfugail - Agy 44
Eglwys St Migel
Mae’r eglwys hon yn hanesyddol unigryw i Ynys Môn gan ei bod wedi cadw ei chymeriad a pheth o ddeunydd mewnol yr eglwysd a safai yma yn y canol oesoedd. Cofnodwyd yn Nhrethiad Norwich 1254. Ychydig wybodaeth sydd am Migel ond mae wedi gadael ei enw ar ddwy graig heb fod nepell o’r Skerries ac adnabyddir fel Maen Figel. Adnewyddodd William Morris (un o Forissiaid Môn) yr adeilad yn y 18fed ganrif ac eto yn y ganrif olynol. Ni newidiwyd oddi mewn ac erys y seddau caeedig, meinciau i’r gweithwyr a man sefyll i tlodion mwy neu lai fel ac yn yr oes a fu.. Ar y gloch mae’r arysgrif ‘God save this church 1642’ Mae yn awr o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill’ Mae hi yn Gradd11 rhestredig.
Arysgrifau Coffa
Mae’r fynwent wedi’i thrawsgrifio (M210) ac mae y gyfrol ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein.
Dolenni defnyddiol
Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
