Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 28 - Llaneilian

Llaneilian - Agy 28

Eglwys St Eilian

Un o eglwysi canoloesol mwyaf diddorol a gwych ei chyflwr ar yr ynys o ganlyniad i adfer gofalus o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Sefydlwyd o bosibl yn y 6ed C. Y cerrig sydd cynharaf o'r 12fed i'r 15fed C ac mae meindwr pyramidaidd anarferol iddi. Mae'r tu mewn i'r eglwys yn nodedig am ei cerfwaith pren a croglen dderw 15fed C sydd yno gyda llun ysgerbwd wedi ei baentio arni.. Mae capel 14eg C a chysylltiad i’r eglwys drwy dramwyfa. Mae cist bren gyda bandiau haearn , dyddiedig 1667 a adnabyddir yn lleol fel " Cyff Eilian " , yn cael ei ddefnyddio i gasglu rhoddion gan blwyfolion a phererinion . Hefyd i'w gweld yn yr eglwys yw pâr o gefail gŵn dyddiedig 1748. Yn y dyddiau hynny nid oedd yn anarferol i bobl ddod â'u cŵn i mewn i'r eglwys, ac ‘roedd rhain yn cael eu defnyddio i droi allan y rhai afreolus .

Arysgrifau Coffa

Mae’r mynwentydd canlynol wedi’i trawsgrifio ac mae'r cyfrolau ar gael i’w prynu yn ein siop ar-lein.

Dolenni defnyddiol

Genuki

Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru