Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 02 - Amlwch

Amlwch - Agy 02

Eglwys St Elaeth

Cysegrwyd yr eglwys gynnar yma i Sant Elaeth tua 550AD. ‘Roedd gan yr eglwys gyntaf do gwellt, a’r ail do llechi a meindwr bychan; trawyd y ddwy yn eu tro gan ffellt a’u difrodi’n ddifrifol.

Codwyd yr adeilad presennol yn 1800 â chyfraniadau gan Gwmni Mwynglawdd Copr Parys. Gwnaed newidiadau sylweddol i’r strwythur tua 1867. Mae dwy gloch yn y twr, un y dyddio o 1687 a’r llall o 1820.Dros y blynyddoedd gwelwyd adnewyddu helaeth, ond yn 1999, dan oruchwyliaeth y Pensaer, Adam Voelcker, aildrefnwyd yr adeilad. Ailsefydlwyd y balconi ac ailwampwyd y fedyddfa i adlewyrchu cysylltiad y dref a’r farchnad gopr a fu’n llewyrchus ar un adeg. Cyfrannwyd y bedyddfaen gan ffrindiau ac addolwyr yn 1900. Claddwyd nifer o bobl nodedig yn y fynwent, sy’n cynnwys nifer o gerrig pen beddi llechen diddorol yn coffáu capteiniaid, llawfeddygon, mwyndoddwyr a gwerthwyr glo.

Arysgrifau Coffa

Mae’r mynwentydd canlynol wedi’i trawsgrifio ac mae'r cyfrolau ar gael i’w prynu yn ein siop ar-lein.

Dolenni defnyddiol

Genuki

Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 

St Elaeth, Amlwch