Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Caernarfon > Cae 12 - Caerhun
Caerhun - Cae 12
Eglwys y Santes Fair, Caerhun
Hynodrwydd Eglwys y Santes Fair, Caerhun, yw ei bod o fewn rhagfuriau hen gaer Rufeining Canovium, wedi ei lleoli rhwng plasty Caerhun, ar y ffordd B5106, ac Afon Conwy. Mae'r plwyf yn un mawr ar lechweddau gorllewinol Dyffryn Conwy a thyfodd yn fwy fyth pan ychwanegwyd plwyf Llangelynnin ato yn y 1980au.
Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg gydag efallai ambell garreg Rufeinig yn y muriau. Y bedyddfan a'r muriau gogleddol a deheuol yw'r cyfan sydd yn weddill o'r adeilad hwnnw. Yn y 1850au cafodd y lle ei adnewyddu'n sylweddol a newidiwyd yr hen ddodrefn am yr hyn sydd yno heddiw.
Yn ôl bwrdyn yn yr eglwys, cafodd capel deheuol yr eglwys, sydd yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, ei adeladu gan Edward Williams, Maes Castell, Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1570.
Arysgrifau Coffa
Mae’r fynwent wedi’i thrawsgrifio (M348) ac mae y gyfrol ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein.
Dolenni defnyddiol
Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru