Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Deunydd darlithoedd zoom nawr ar gael i Aelodau!

Yn dilyn y ddarlith zoom gan Antony Marr  - Birth & Deaths: The hidden secrets of registration (2/11/22), mae taflen gwybodaeth ar gael ar ein gwefan i’w lawrlwytho fel pdf  -  https://www.chtgwyneddfhs.cymru/cy/adnoddau/deunydd-or-darlithoedd-zoom - ar gyfer aelodau yn unig.

I fewngofnodi fel aelod:-  Os nad ydych wedi mewngofnodi o'r blaen, ewch i "Dashfwrdd Eich Cyfrif" a dod o hyd i "Wedi anghofio eich cyfrinair? Cliciwch yma i'w ail-osod." sydd o dan y ffurflen mewngofnodi. Rhowch yr e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth ymuno â'r gymdeithas - a gwasgwch "Ailosod". Cyn bo hir byddwch yn derbyn e-bost o'r wefan a fydd yn rhoi cyfrinair dros dro i chi. Gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r wefan. Gallwch newid eich cyfrinair i rywbeth unigryw trwy wasgu'r ddolen "Newid Cyfrinair" yn y Dashfwrdd.

Os cewch unrhyw anhawster wrth fewngofnodi i'r safle, cysylltwch â gwefeistr@chtgwyneddfhs.cymru am ragor o gymorth.