Hafan > Pwy Ydym Ni > Digwyddiadau > Noson anffurfiol - 24/9/26
Rhaglen Digwyddiadau Cangen Arfon 2026/27
Ymunwch a ni yn ein cartref newydd am noson anffurfiol. Dewch a'ch "wal frics" neu stori ddifyr efo chi a'i rannu gyda eraill - 24ain o Fedi 2026 am 6 yh
Oherwydd gwelliannau arfaethedig i Lyfrgell Caernarfon mae Canolfan Adnoddau y Gymdeithas wedi symud ar y 7fed o Fedi 2026 i:
Yr Aelwyd,
3 - 5 Stryd yr Eglwys.
Caernarfon,
Ll55 1SW.
https://maps.app.goo.gl/8D1Ek53RoutLzDXs5
Eleni (2026) byddwn yn cyfarfod am 7yh ar ddydd Iau olaf y mis ym mis Medi, Hydref, a mis Mawrth ac am 2yp ym mis Tachwedd, Ionawr a Chwefror. Rydym yn gobeithio trefnu ymweliad ar gyfer cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill.
Bydd y Ganolfan Adnoddau yn agor am awr cyn dechrau'r ddarlith ac mae croeso i Aelodau gyrraedd yn gynnar er mwyn cynnal ymchwil.
Cynhelir pob cyfarfod yn y Gymraeg.
Aelodau – am ddim
Di-aelod - Amcan rhodd o £2 a’r y drws
Croeso cynnes i bawb!
Canghennau:
