Hafan > Pwy Ydym Ni > Digwyddiadau > Noson Aelodau - Dyffryn Nantlle- 25/3/2027

Rhaglen Digwyddiadau Cangen Arfon 2026/27

Dewch atom Nos Iau 25ain o Fawrth 2027 am 7yh  i weld beth sydd yn ein casgliadau am Dyffryn Nantlle a sgwrsio am y dyffryn a'i phobl.  Oes gennych rywbeth diddorol ynghyd a'r dyffryn buasech yn hoffi rhannu gyda ni?  Dewch a nhw efo chi.

Mi fydd yn noson anffurfiol gyda phaned a chacen. 

Yr Aelwyd,
3 - 5 Stryd yr Eglwys.
Caernarfon,
Ll55 1SW.
https://maps.app.goo.gl/8D1Ek53RoutLzDXs5

Eleni (2026) byddwn yn cyfarfod am 7yh ar ddydd Iau olaf y mis ym mis Medi, Hydref, a mis Mawrth ac am 2yp ym mis Tachwedd, Ionawr a Chwefror. Rydym yn gobeithio trefnu ymweliad ar gyfer cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill.

Bydd y Ganolfan Adnoddau yn agor am awr cyn dechrau'r ddarlith ac mae croeso i Aelodau gyrraedd yn gynnar er mwyn cynnal ymchwil.

Cynhelir pob cyfarfod yn y Gymraeg 

Aelodau – am ddim
Di-aelod - Amcan rhodd o £2 a’r y drws

Croeso cynnes i bawb!

Canghennau:

Arfon