Hafan > Ein Hardal Ni > Eglwysi a Chapeli Gwynedd > Ynys Môn > Agy 01 - Aberffraw
Aberffraw - Agy 01
Eglwys St Beuno
‘Roedd gan yr eglwys gysylltiad â Llys Tywysogion Gwynedd. Fe’i hail-adeiladwyd yn y cyfnod Normanaidd. Mae hi’n eglwys gyda chorff dwbl efo’r rhan ddeheuol a’r muriau gorllewin yn dyddio o’r deuddegfed ganrif. Fe ychwanegwyd y rhan ogleddol a’r arcêd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y gangell a’r waliau yn gymharol ddiweddar.
Arysgrifau Coffa
Mae’r fynwent wedi’i thrawsgrifio (M348) ac mae y gyfrol ar gael i’w brynu yn ein siop ar-lein.
Dolenni defnyddiol
Coflein - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru