Hafan > Ymaelodi > Buddion Aelodaeth
Beth yw buddion aelodaeth?
Bydd eich aelodaeth flynyddol i’r Gymdeithas yn cynnwys y canlynol:
- 2 gopi bob blwyddyn o'n cyfnodolyn Gwreiddiau (A4 o ran maint ac yn llawn erthyglau diddorol yn Gymraeg a Saesneg). Gall aelodau gyhoeddi eu diddordebau teuluol yn y cyfnodolyn.
- Cyfle i fynychu ein cyfarfodydd rhanbarthol a Zoom gyda rhaglen eang a diddorol o siaradwyr.
- Help gan swyddogion sydd gyda gwybodaeth benodol o ardaloedd tu fewn i Wynedd ac yn rhugl yn y Gymraeg.
- Mynediad i ardal “aelodau yn unig” ar wefan newydd y Gymdeithas lle gallwch restru eich diddordebau ymchwil a chysylltu ag aelodau eraill sydd â diddordeb tebyg.
- Mynediad i ganolfan adnoddau'r gymdeithas yng Nghaernarfon ar agor unwaith y mis ar bnawn Sadwrn a pob nos Iau ddiwethaf y mis o Fedi i Ebrill, heblaw Rhagfyr. Yma gallwch gael gafael ar ein holl adnoddau a gofyn am gyngor gan swyddogion ac aelodau ar eich "waliau brics".
- Mynediad i’r cyhoeddiadau sydd wedi eu hargraffu gan y gymdeithas ac ar gael i'w prynu ar ein gwefan - gan gynnwys:
- Arysgrifau cofeb mynwentydd eglwysi a chapeli ar draws Gwynedd.
- Mynegeion i gofrestrau plwyfi dethol a chyfrifiad 1851 ayb.
- Mynediad i'n hystod eang o gasgliad llyfrgell gyda chyfleuster benthyca. Ar hyn o bryd mae gennym dros 1,100 o eitemau yn ymwneud â hanes teuluol a hanes lleol yng Ngwynedd.
- Mynediad i'n casgliad llawysgrifau, gan gynnwys hanes teulu/coed teuluol a roddwyd i gyfeirio atynt yn ein canolfan adnoddau.
- Mae gennym hefyd gasgliad mawr o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth sydd wedi'u rhoi i'r gymdeithas (sy'n rhad ac am ddim i aelodau sydd â diddordeb ar ôl derbyn amlen gyfeiriad wedi'i stampio)
- I fynnu i 6 cais y flwyddyn am ddim i’n gwasanaeth chwilio. Gall aelodau roi'r enwau a'r dyddiadau hysbys i ni a byddwn yn chwilio am wybodaeth yn ein cyhoeddiadau, casgliadau llawysgrifau neu lyfrau. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i'r aelodau hynny nad ydynt yn gallu ymweld â'n canolfan adnoddau.
- Cyfle i ymuno â phrosiect i gofnodi mynwentydd.
- Cyfle i wirfoddoli fel aelod o’r Pwyllgor gwaith gyda materion cyffredinol rhedeg y gymdeithas. (Mae'r pwyllgor bob amser yn croesawu unrhyw help gan ein haelodau).
- Gwirfoddoli I helpu ar ein stondin mewn gwahanol ddigwyddiadau (Eisteddfod Genedlaethol pan yn y gogledd a Ffeiriau Hanes Teulu a hel achau).