Hafan > Pwy Ydym Ni > Prosiectau > Cofodi mynwentydd - Llanllyfni
Llanllyfni
Mae bwlch yng nghyhoeddiadau’r gymdeithas yn ardal Dyffryn Nantlle ac ar ôl amryw o ymholiadau gan aelodau, penderfynwyd mai dyma le fydd ein criw prosiectau yn canolbwyntio ar ôl gorffen St. Beuno, Clynnog. Mae pum mynwent ym mhentref Llanllyfni ac yna byddwn yn gweithio ar Macpelah ym Mhenygroes.
Mynwent Bara Caws, Llanllyfni (Bedyddwyr Albanaidd) - Mynwent fechan wedi'i leoli yn nghanol stryd y pentre. CWBLHEWYD - Ar gael yn ein siop - M408
Mynwent Sant Rhedyw, Llanllyfni - O ran maint yn eithaf ac mewn cyflwr eithaf da ond rhai darnau yn dirywio. Wedi'i leoli yng ngwaelod y pentref oddi amgylch yr eglwys.- CWBLHEWYD Ar gael yn ein siop - M410
Gorphwysfa, Llanllyfni - Mynwent eithaf diweddar mewn cyflwr da wedi'i leoli ym mhen pellha’r pentref ar yr hen ffordd i Nebo a Nasareth.- CWBLHEWYD - Ar gael yn ein siop - M411
Mynwent Salem, Llanllyfni - Mynwent fechan mewn cyflwr eithaf. Wedi ei leoli ar Lôn Tŷ Gwyn.
Capel Ebenezer, Llanllyfni - Lleolir ar y chwith wrth fynd i mewn i'r pentref. Mynwent fach tu ôl i'r capel mewn cyflwr eithaf. - CWBLHEWYD - Ar gael yn ein siop - M409
Mynwent Macpelah, Penygroes - Mynwent helaeth mewn cyflwr eithaf mewn rhai darnau.
Cysylltwch â ni os oes ganddo’ch diddordeb mewn helpu! Mae croeso i unrhyw un gysylltu gyda ein Swyddog Gwerthiant- gwerthiant@chtgwyneddfhs.cymru i gynnig cymorth.