Hafan > Pwy Ydym Ni > Newyddion > Galwad am erthyglau ar gyfer Gwreiddiau Gwynedd Roots Hydref / Gaeaf 2024
Annwyl Aelodau,
Hoffem eich atgoffa’n garedig o’r angen am erthyglau a chynnwys ar gyfer Gwreiddiau Gwynedd Roots — Cylchgrawn y Gymdeithas. Bydd rhifyn Hydref/Gaeaf 2024 yn cael ei gyhoeddi’n fuan ac mae angen erthyglau cyffredinol ar bynciau hanes teulu ac yn fwy penodol ar ein Sbotolau.
Mae Sbotolau rhifyn Hydref/Gaeaf 2024 ar Y Fenai - The Strait. Er bod siart Collins yn dangos tiroedd gwag ar ddwy lan o’r Fenai rydym yn gwybod bod trefi, pentrefi a thyddynnod yn llawn dop o deuluoedd prysur ar dir ac ar fôr. Dewch â straeon a hanesion amdanynt ar gyfer y rhifyn nesa’. Yn masnachu neu yn morio /pysgota. Pwy fynychoedd y llysoedd - a’r carchardai - yn Biwmaris a Chaernarfon? Garddwr neu forwyn ar ystadau. Adeiladydd, bugail; crefftwr? Meddyg, milwr neu felinydd? Roedd cryn symud ar hyd - ac ar draws - yr Afon. cyn ac ar ôl codi’r pontydd enwog. Hwyliodd nifer o’i phorthladdoedd i chwilio bywyd gwell.
Dylai'r testun fod ar ffurf Word gyda delweddau'n cael eu hanfon ar wahân mewn ffurf .jpg, NID fel PDF, ac yn ddelfrydol mewn cydraniad mor uchel â phosib.
Dylid anfon erthyglau trwy e-bost at Olygydd y Cylchgrawn, erbyn Medi 30 2024.
Mr H. Llew Williams: llewwilliams@btinternet.com