Hafan > Pwy Ydym Ni > Digwyddiadau > Gweithdy Hanes Teulu
Gweithdy Hanes Teulu mewn cydweithrediad a Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn
Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn i gynnal y gweithdy hwn. Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau gan aelodau o'r Gymdeithas, John Dilwyn Williams, Mair Read a Dewi Jones) ar nifer o wahanol dulliau ymchwilio i'ch achau. Mae'r cynnwys yn addas i ddechreuwyr a phobl profiadol, yn wir unrhyw un sydd á diddordeb yn hanes ei deulu.
Dydd Sadwrn 22 Hydref 2022 - 1.30-5pm - Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn (Dolen Google Maps)
Siaradwyr
John Dilwyn Williams - ‘Dulliau traddodiadol’
Mair Read - ‘Ymchwilio ar-lein’
Dewi Jones - ‘Ystyriwch DNA’
Hefyd
Stondin Cymdeithas Hanes Teulu Gwynedd, Lluniaeth, Arddangosfa, Trafodaeth - Top-Tips’ gan bobl profiadol
Cofrestru
Mae'n hanfodol eich bod yn gofrestru ymlaen llaw i fynychu'r digwyddiad hwn. Cyntaf i'r felin .... anfonwch air trwy ebost (afllmm@yahoo.com) neu ar neges testun 07917 700 851) Cofrestrwch erbyn 20/10/22
Bydd un mynychwr lwcus yn derbyn pecyn prawf DNA o'r het mynychwyr !
Bydd y sgyrsiau yn Gymraeg, ond croeso i bawb.
