Hafan > Pwy Ydym Ni > Digwyddiadau > Canolfan Adnoddau - Llyfrgell Caernarfon 17/12/22

Lleolir Canolfan Adnoddau'r Gymdeithas yn yr un adeilad â Llyfrgell Gyhoeddus Caernarfon.

Llyfrgell Caernarfon,
Allt Pafiliwn,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1AS

Ar bob 3ydd prynhawn Sadwrn yn y mis (ac eithrio mis Mai pan gynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) rydym yn agored i aelodau ac ymwelwyr rhwng 2 a 5pm. 

Pan ydym ar agor mae ystafell Gymunedol y Llyfrgell wedi'i haddasu gyda byrddau ar gyfer defnydd ymchwil a darperir mynediad i'r ystafelloedd sy'n gartref i'n casgliadau.

Mae gwirfoddolwyr o'r Pwyllgor, sy'n haneswyr teuluol profiadol, yno i gynnig help gyda'n hadnoddau a chynnig cyngor cyffredinol ar ymchwilio i goed teuluol.

Croeso i pawb - aelodau a rhai sydd ddim yn aelodau eto!