Hafan > Adnoddau > Rhestrau Etholwyr Absennol (Sir Fôn) 1918
Rhestr Etholwyr Absennol Sir Fôn 1918
Cydnabyddiaeth
Gwaith Dyfed James yw’r rhestrau hyn, a luniwyd o ddogfennau cyhoeddus gwreiddiol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Wedi'i llunio a'i chyhoeddi i ddiolch ac er cof am y dynion a'r menywod hynny ar y rhestrau hyn, ac i'r rhai na ddychwelodd, sydd wedi talu'r pris eithaf.
Rhestr Etholwyr Absennol
Mae'r rhestr yn cynnwys manylion tua 4,200 o drigolion yr ynys a oeddent yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yng nghanol 1918 a oeddent yn ddilys i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Enwau dynion ydyw'r rhan fwyaf, efallai fod tua 100 o ferched ar y rhestr, y rhain gan amlaf yn nyrsio mewn ysbytai sifil neu filwrol.
Mae'r rhestr yn cynnwys ar gyfer bron pob un: Enw, Cyfeiriad, Rhif, Uned, Rheng Filwrol, Catrawd a Phlwyf e.e.
2112, Jones, John, Ty'rhos, &9880 Bomdr., 55th AA Co., R.G.A.
Mae'r rhestr gyntaf wedi ei threfnu yn ôl y Cyfenw yn nhrefn yr wyddor ac mae'r ail restr wedi ei threfnu yn ôl enw'r plwyf, a'r rhanbarth etholiadol, ond gellir ail drefnu'r ddwy restr mewn unrhyw ffordd a ddymunir.
Mae'r manylion i gyd yn bresennol ar gyfer dros 95% o'r enwau.
Pwysigrwydd y rhestr i ymchwilwyr
Ar ôl y Rhyfel Mawr, cafodd cofnodion gwasanaeth y milwyr i gyd eu cadw mewn storfa gan y Swyddfa Rhyfel yn Arnside, Llundain. Yn ystod y Blitz yn 1940, dinistrwyd y rhan helaeth o'r adeilad, a hefyd dros 80% o'r cofnodion. Felly, yn y rhan helaeth o achosion, nid yw'n bosib gwybod yn union pwy wasanaeth a roddodd unrhyw filwr i'w wlad yn y Rhyfel Mawr.
Mae cofnodion medalau wedi goroesi mewn bron i 100% , ond nid yw'r cardiau hynnu bob amser wedi cofnodi enw llawn y milwyr, a nid ydyw'r cardiau wedi cofnodi cyfeiriad unrhyw filwr. Felly, ni ellir defnyddio rheini i uniaethu unrhyw un yn bendant. Yn ychwanegol, nid oes cardyn os nad oedd teilyngrwydd i fedal. I fod yn deilwng, 'roedd yn rhaid i filwr weini tramor, neu forwr ar y môr mewn theatr ryfel. Felly, nid oes teilyngdra i filwr a wasanaethodd yn y DU yn unig, ee. yn y cwmnioedd amaethyddol neu yn y Corps Llafur.
Mae'r Rhestr Etholwyr Absennol yn datrus llawer o'r problemau hyn. Fe'i dylunwyd yn ystod Gwanwyn a Haf 1918, felly, fe ddylai unrhyw filwr a oedd mewn gwasanaeth ar y pryd fod ar y rhestr.
Byddai unrhyw filwr a oedd eisioes wedi marw yn cael ei gofnodi gan y CWGC (Comisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad), a byddai milwyr a oeddent wedi eu rhyddhau o'r fyddin oherwydd salwch neu niwed yn cael eu cofnodi ar restr y Bathodyn Rhyfel Arian (Silver War Badge).
Mae cofnodion Pensiynau Rhyfel wedi cael eu rhyddhau ar Fold 3, ac ar wefan y Western Front Association. Mae'r Rhestr Etholwyr Absennol yn mynd yn bell iawn tuag ateb cwestiynnau i ymchwiliwr yn chwilio amdan "John Jones, o Sir Fôn" (a mae 161 ohonnynt!). Mae'r rhestr yma yn rhoi cyfeiriad a phlwyf, rhif, rheng, uned a chatrawd i bron bob un.
Rhestrau Excel
Mae dwy ddogfen Excel ar gael: Rhestr wedi'i didoli yn ôl Plwyf (a'r rhanbarth etholiadol) a Rhestr wedi'i didoli yn ôl Cyfenw.